Navigation
Home Page

Poem

Poem / Caniad

Croesi’r Heol

 

Coch a melyn,

Yna gwyrdd,

Yw y lliwiau

Ar y ffyrdd.

 

Coch yw aros –

Lliw y fflam,

Nid yw’n ddiogel

Symud cam.

 

Daw y melyn

Cyn bo hir, -

Edrych a yw’r

Ffordd yn glir?

 

Yna’r gwyrdd,

Lliw dail y coed,

Croeswn ninnau

Yn ddi-oed.

From little acorns, tall oak trees grow

Top