Dau Gi Bach
Dau gi bach yn mynd i’r coed,
Esgid newydd am bob troed;
Dau gi bach yn dŵad adre
Wedi colli un o’u sgidie
Dau gi bach.
Dau gi bach yn mynd i’r coed,
Dan droi fferau, dan droi troed;
Dau gi bach yn rhedeg adre,
Blawd ac eisin hyd eu coese.
Dau gi bach.
Dau gi bach â’u bron yn wyn,
Dau gi bach â’u llygaid syn;
Dau gi bach yn dal i sbio,
Dau gi bach sut r’ych chi heno.
Dau gi bach.