Poem / Caniad
Dau Gi Bach
Dau gi bach yn mynd i’r coed,
Esgid newydd am bob troed.
Dau gi bach yn dwad adre,
Wedi colli un o’u ‘sgidie,
Dau gi bach.
Dau gi bach yn mynd i’r coed,
Dan droi’u fferau, dan droi’u troed.
Dau gi bach yn dwad adre,
Blawd ac eisin hyd eu coese,
Dau gi bach.