Song/Can
CÂN CRWTYN Y GWARTHEG
Mae gen i fuwch wynebwen lwyd,
Ie fyth, wynebwen lwyd,
Mae gen i fuwch wynebwen lwyd,
Hi aiff i’r glwyd i ddodwy.
A’r iâr fach yn glaf ar lo,
Ie fyth yn glaf ar lo,
A’r iâr fach yn glaf ar lo
Hi aiff o ‘ngho i ‘leni.
Cytgan / Chorus (x2)
Ton ton ton dyri ton ton ton
Dyri ton ton ton dyri ton ton ton
Ton ton ton dyri ton ton ton
Dyri ton ton ton dyri ton ton.
Saith o adar mân y to,
Ie adar mân y to,
Saith o adar mân y to
Yn ffraeo wrth daflu disiau,
A’r dylluan â’i phig cam,
A’r dylluan â’i phig cam,
A’r dylluan â’i phig cam
Yn chwerthin am eu pennau.
Mae gen i sgwarnog gota goch,
Ie sgwarnog gota goch,
Mae gen i sgwarnog gota goch,
A dwy gloch wrthi’n canu,
dau faen melin yw ei phwn,
Dau faen melin yw ei phwn,
A dau faen melin yw ei phwn
Yn maeddu milgwn Cymru.